YR HYN A WNAWN
|
Datblygu prosiectau a ariannir gan yr UE
Datblygu prosiectau gyda golwg ar wneud cais am gyllid ar gyfer rhaglen bwrpasol yr UE, e.e. gwell cyfuniad rhwng hyfforddiant a lleoliad gwaith mewn cwmnïau.
Datblygu ceisiadau a chynigion
Datblygu proffesiynol ar geisiadau prosiect, cynigion yn cynnwys dod ynghyd â‘r consortia gofynnol (strwythur partner Ewropeaidd) a chyflwyniad electronig yn nhair prif iaith Ewrop
(Frrangeg, Saesneg ac Almaeneg) a Hwngareg, Rwmaneg, Eidaleg a Sbaeneg.
Arian cyfatebol cenedlaethol
Fel a phan fo angen, medrir cyfuno gwneud cais am gyllid Ewropeaidd drwy ysgrifennu cynigion gyda cheisiadau cenedlaethol.
Hyfforddiant ar gyllid a thendro Ewropeaidd
Gall staff EUCONTACT gynnal hyfforddiant pwrpasol mewnol ar raglenni cyllid yr UE, sut i dendro a rheoli prosiectau.
|
Dynodi rhaglenni ariannu‘r UE
Ymgynghoriaeth ar raglenni cyllid presennol Ewrop a‘u cyrchu ar gyfer strategaethau tymor byr a hirdymor.
Cymorth i weithredu prosiectau
Profiad cadarn gyda rheoli prosiectau ar gyfer ein cwsmeriaid, yn arbennig ar gyfer prosiectau llwyddiannus a ddatblygwyd gan EUCONTACT.
Ymgynghoriad strategol ar bynciau Ewropeaidd a blaenoriaethau ariannu‘r dyfodol
Datblygu strategaethau tymor byr a thymor canol ar gyfer defnydd wedi‘i dargedu o‘r rhaglenni cyllid Ewropeaidd mewn cysylltiad gyda datganiad cenhadaeth
y sefydliad cleient.
Datbygu a phrofi prosiectau Ewropeaidd arloesol ym maes Addysg a Hyfforddiant Galwedigaethol ac Addysg Bellach
Mae hyrwyddo prosiectau Ewropeaidd i ddatblygu ymhellach y dimensiwn Ewropeaidd mewn Addysg a Hyfforddiant Galwedigaethol ac Addysg Bellach, gyda phwyslais
arbennig ar swyddi technegol a iechyd a chymdeithasol, yn faes gwaith arbennig.
|